About Lesson
Fformatau addas ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun busnes
Creu a dehongli graffiau gan ddefnyddio taenlenni
Os yw data ar ffurf taenlen (Excel neu debyg) mae’n hawdd creu graffiau gyda’r data. Fodd bynnag, mae’n bwysig dewis y graff sy’n arddangos y data yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o graffiau: Llinell, Cylch, Siartiau bar a Histogramau.
Graffiau gwasgariad (XY) a llinellau tueddiad llinol
Hefyd gellir cael graffiau gwasgariad sy’n dangos cydberthyniad rhwng dau newidyn fel y disgrifiwyd uchod. Cliciwch y ddolen i weld adolygiad syml o graffiau gwasgariad a llinellau ffit orau:
Gallwch ddarllen rhagor am ddadansoddi data fan hyn:
Cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau
Mae cyflwyniadau ac adroddiadau yn ddulliau o drosglwyddo data ar lafar neu yn ysgrifenedig. Er mwyn gwneud cyflwyniad ac ar gyfer adroddiadau bydd angen cyflwyno’r data mewn ffordd sy’n rhwydd i bobl ddeall. Gellir defnyddio rhaglenni fel PowerPoint neu Prezi i greu cyflwyniadau effeithiol.
Gwyliwch y fideo i weld cyngor Banc Datblygu Cymru ynglŷn â gwneud cyflwyniad i fuddsoddwr mewn busnes. Mae llawer o’r cyngor yn berthnasol i gyflwyniadau yn gyffredinol:
Sut i greu cyflwyniad gwych – Banc Datblygu Cymru
Mae fformat trafodaethau TED wedi dod yn ffordd boblogaidd o wneud cyflwyniadau. Dilynwch y ddolen i weld sut i wneud cyflwyniad dull TED: