Gwneud Penderfyniadau Busnes
Nid yw penderfyniadau busnes yn cael eu gwneud ar hap. Er mwyn gwneud penderfyniadau dilys mae angen ymchwilio a dadansoddi’r amgylchedd busnes cyfredol.
Ffynonellau casglu data
Gallwch atgoffa’ch hun ynglŷn â ffynonellau casglu data drwy ddilyn y ddolen:
![]() |
Dulliau ymchwil y farchnad a’r defnydd ohonynt |
Storio gwybodaeth
Mae’n hanfodol bod busnesau yn deall eu cyfrifoldebau o ran storio gwybodaeth a ddaw o ymchwil. Mae yna reoliadau sy’n ymwneud â sut mae’n rhaid storio data ac am faint o amser y gellir eu storio. Mae’n bwysig trin data yn ofalus gan fod colli data personol yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy (Saesneg yn unig):
Dadansoddi, cymharu a gwerthuso data i ragweld canlyniadau; cynnig penderfyniadau amgen synhwyrol a chyfiawnhau datrysiadau.
Mae archwilio data yn drwyadl yn galluogi busnesau i wneud y penderfyniadau gorau gyda’r wybodaeth sydd ar gael. Mae nifer o ddulliau ar gael i ddadansoddi gwybodaeth ac mae busnesau yn eu defnyddio i sicrhau eu bod yn edrych ar y sefyllfa bresennol yn ogystal ag ystyried yr holl ffactorau a allai effeithio ar y penderfyniad. Mae nifer o fodelau busnes sy’n gwneud y broses yn fwy hylaw.