About Lesson
Technegau i ddadansoddi data yn effeithiol at ddibenion busnes
Bydd trin y data sydd wedi eu casglu yn ei gwneud hi’n haws i ddehongli’r wybodaeth.
Gwerthoedd cynrychioliadol:
Mae’n bwysig gallu gweld patrymau yn y data ac mae defnyddio gwerthoedd cynrychiadol yn eich galluogi i wneud hyn.
Gellir cyfrifo’r cymedr drwy rannu cyfanswm y data gyda’r nifer o werthoedd.
Gellir darganfod y canolrif drwy roi’r data mewn trefn a gweld pa rif sy’n ymddangos yn y canol.
Y modd yw’r gwerth sy’n ymddangos fwyaf aml yn y data.
Ymarfer:
Gan ddefnyddio’r gyfres ddata isod, dewiswch yr ateb cywir
2, 5, 9, 7, 2, 4, 1, 5, 8, 10, 2
Ceir mwy o wybodaeth yma:
Mae nifer o raglenni meddalwedd cyfrifiadurol sy’n gallu trin data a chyfrifo amledd darn o ddata, sef y nifer o weithiau mae pwynt data yn ymddangos. Enghreifftiau yw Excel, SPSS, Tableau ac Nvivo.