Modiwl 5: Rhagolygon llif arian ac adennill costau

Rhagolwg adennill costau – costau

Newidiol
Costau newidiol yw’r costau sy’n newid yn ôl faint o nwyddau sy’n cael eu creu neu eu gwerthu. Mae stoc yn enghraifft o gost newidiol.
Lled-newidiol

Mae gan gostau lled-newidiol elfen sefydlog ac elfen newidiol e.e. mae gan fil nwy/trydan cartref yn aml gost sefydlog a chost newidiol ar gyfer y nwy/trydan sy’n cael ei ddefnyddio.

Gwybodaeth am eich tariff

TRYDAN NWY
Enw’r tariff: Pris Sefydlog Mai 2026 Enw’r tariff: Pris Sefydlog Mai 2026
Dull talu: Debyd Uniongyrchol Dull talu: Debyd Uniongyrchol
Dyddiad gorffen: 31 Mai 2016 Dyddiad gorffen: 31 Mai 2016
Ffi gorffen: Ddim yn berthnasol Ffi gorffen: Ddim yn berthnasol
Defnydd blynyddol: 2983 kWh Defnydd blynyddol: 9734 kWh

Gwybodaeth am eich taliadau

Trydan – Mesurydd: S63G09043
Cyfnod Darlleniad blaenorol Darlleniad diweddaraf Unedau o drydan a ddefnyddiwyd Cyfradd kWh Cost
10 Tach 15 – 15 Chwe 16 18395 Amcangyfrif 19151 eich darlleniad 156 kWh 12.555c £102.44
Cost sefydlog (88 diwrnod @ 18.00c pob dydd) = £15.84
Cyfanswm costau trydan am y cyfnod hwn: £118.28
Nwy – G4K68890234
Cyfnod Darlleniad blaenorol Darlleniad diweddaraf Unedau o nwy a ddefnyddiwyd Cyfradd kWh Cost
10 Tach 15 – 15 Chwe 16 8440 Amcangyfrif 8780 eich darlleniad 340 = 3776 kWh* 4.042c £152.63
Cost sefydlog (88 diwrnod @ 22.00c pob dydd) = £19.36
Cyfanswm costau nwy am y cyfnod hwn: £171.99

 

CYFANSWM: £290.27
TAW @ 5% o £290.27 = £14.51
Cyfanswm costau am y cyfnod hwn:  £304.78
Eich rhif cyflenwad trydan yw:
S 01 801 902
12 0002 0075 216
Eich rhif cyfeirnod i’ch pwynt mesurydd nwy yw: 50 63 45 19 04

 

Sefydlog
Costau sefydlog yw’r costau sydd ddim yn newid yn ôl faint o nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu. Byddwch yn ofalus. Dydy hyn ddim yn golygu nad ydyn nhw byth yn newid – ond nid ydynt yn newid yn ôl faint o nwyddau y mae busnes yn ei wneud neu ei werthu. Mae rhent yn un enghraifft.
Cyfanswm costau

Cyfanswm costau yw’r holl gostau wedi eu hadio at ei gilydd

Cyfanswm costau = costau newidiol + costau sefydlog

Munud i feddwl