About Lesson

Ariannu Busnes Rhyngwladol
Mae rheoli llif arian yn bwysig pan fyddwch yn allforio.
Dilynwch y ddolen isod i ddysgu rhagor am yr angen i fusnesau ofalu am eu llif arian wrth fasnachu dramor.
Er mwyn osgoi problemau llif arian mae angen dewis dull talu yn ofalus.
Mae gan bob un fanteision ac anfanteision.
Taliadau ymlaen llaw gan y mewnforiwr
Yn ddelfrydol, bydd busnes sy’n allforio eisiau cael y tâl gan y mewnforiwr cyn dosbarthu’r nwyddau. Mae hyn yn creu risg i’r mewnforiwr, felly mae’n bosib hefyd i allforiwr drefnu ei fod yn derbyn rhandaliad o flaen llaw a derbyn y gweddill pan fydd y nwyddau wedi cyrraedd.
Llythyron credyd
Llythyron oddi wrth y banc yw’r rhain, sy’n gwarantu y bydd anfonebau yn cael eu talu’n brydlon. Dyma un o’r ffyrdd mwyaf diogel gan ei fod yn lleihau’r risg i’r mewnforiwr a’r allforiwr.
Credydau allforio
Mae credyd allforio yn darparu cyllid i allforwyr yn erbyn archebion allforio. Hynny yw, mae cwmni credyd yn talu canran o werth yr archeb i’r busnes sy’n allforio. Mae’r cyllid hwn yn galluogi allforwyr i gyflawni archebion a thalu costau cynhyrchu cyn derbyn taliad gan brynwyr tramor.
Benthyciad banc
Mae benthyciad banc yn ffordd gymharol syml o ariannu masnach dramor ond efallai bydd y banc am weld cynllun masnachu ac wrth gwrs, bydd yn rhaid talu’r benthyciad yn ôl â llog.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am ffyrdd o ariannu masnach ryngwladol (Saesneg yn unig).
Gallwch hefyd ddarllen canllawiau Busnes Cymru.