About Lesson

Mathau o weithgareddau busnes
Busnesau sy’n allforio
Mae busnesau sy’n allforio yn gwerthu eu cynnyrch i wledydd eraill. Er enghraifft, cwmni yng Nghymru yn gwerthu nwyddau i Japan.
Busnesau sy’n mewnforio
Mae’r busnesau hyn yn mewnforio cynnyrch i’w werthu yn eu gwlad. Er enghraifft, cwmni o Gymru yn mewnforio nwyddau o Ffrainc.
Busnesau amlwladol
Mae busnesau amlwladol yn gweithredu ar draws y byd. Efallai y bydd ganddynt ffatrïoedd neu allfeydd mewn nifer o wledydd ac maent yn gwerthu a phrynu nwyddau mewn gwahanol wledydd. Er enghraifft, mae gan gwmni Airbus (a ffurfiwyd gan gonsortiwm rhwng Ffrainc a’r Almaen ym 1950) ffatri ym Mrychdyn, gogledd Cymru sy’n gweithgynhyrchu adenydd awyrennau. Caiff cydrannau ar gyfer yr adenydd eu dosbarthu o’i ffatrïoedd yn Lloegr, yr Alban, Sbaen a’r Almaen i ogledd Cymru. Caiff y cydrannau eu cyd-osod yn y ffatri ym Mrychdyn. Yna, pan fydd yr adenydd bron wedi eu cwblhau, byddant yn cael eu cludo o Gymru i’r Almaen ac o’r Almaen i Ffrainc er mwyn gorffen y gwaith.