Modiwl 1: Archwilio cyd-destun rhyngwladol gweithrediadau busnes
About Lesson

Busnes Rhyngwladol

 

Mae rhai busnesau yn hapus i weithredu ar raddfa leol ond mae eraill, un ai oherwydd y math o gynnyrch neu’r math o gynulleidfa y maent yn ei thargedu, yn gweithredu ar raddfa fyd-eang. Mae hyn yn dod â manteision i’r busnesau ond hefyd i gwsmeriaid sy’n elwa o ddewis mwy eang o nwyddau a gwasanaethau. Yn yr uned hon byddwn yn dysgu mwy ynglŷn â busnesau sy’n gweithredu ledled y byd.