About Lesson
Rhesymau dros gynnal busnes yn rhyngwladol
Mae nifer o resymau dros gynnal busnes yn rhyngwladol:
Marchnadoedd newydd
Gall busnesau gymryd mantais o fwlch yn y farchnad mewn gwledydd eraill er mwyn gwerthu eu cynnyrch neu wasanaeth. Gall hyn fod yn gyfle i’r busnes dyfu hyd yn oed pan fydd y farchnad gartref yn orlawn.
Mwy o gyfran y farchnad
Dyma faint o’r farchnad a reolir gan gwmni neu gynnyrch. Gall busnesau ehangu eu cyfran o’r farchnad ryngwladol ar gyfer nwydd neu wasanaeth drwy fasnachu mewn gwledydd eraill.
Manteisio ar eu brand
Unwaith y daw brand yn adnabyddus, gall fod yn fuddiol i’r cwmni ei ddefnyddio’n helaeth er mwyn gwneud y mwyaf ohono.
Arweinyddiaeth marchnad
Wrth allforio i farchnad lle nad oes nwydd tebyg yn barod, gall busnesau sefydlu eu hunain a sicrhau gwerthiant cyn bod busnesau eraill yn cyrraedd y farchnad. Gall hyn rhoi’r fantais gystadleuol angenrheidiol i arwain y farchnad.
Dominyddiaeth dechnolegol
Mae cwmnïau sydd ar flaen y gad yn dechnolegol yn gallu manteisio ar farchnad fyd-eang cyn bod cwmnïau eraill yn datblygu’r dechnoleg.
Mantais gymharol
Mae’n gallu bod yn rhatach gweithgynhyrchu nwyddau mewn rhai gwledydd. Gall cyflogau fod yn is neu gall cyfraddau trethi yn y wlad fod yn is nag yn y DU, felly gall busnesau fanteisio ar hyn a gwneud mwy o elw.
Twf
Un o’r prif resymau dros fasnachu yn rhyngwladol yw er mwyn tyfu. Mae 67 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig ond mae 1.4 biliwn o bobl yn India ac 8 biliwn (8,000,000,000) bron yn y byd i gyd! Wrth dyfu, gall busnes elwa o ddarbodion maint sef y gostyngiad yng nghost pob uned a gynhyrchir oherwydd maint y busnes.