Modiwl 1: Archwilio cyd-destun rhyngwladol gweithrediadau busnes
About Lesson

Mathau o gymorth a ddarperir

 

Mae’r holl asiantaethau uchod yn darparu cymorth i fusnesau. Ceir cymorth o wahanol fathau.

Ffeiriau masnach

Mae ffeiriau masnach yn gyfle i werthwyr arddangos eu cynhyrchion i gwsmeriaid o wahanol wledydd.

Gwyliwch y fideo i weld busnesau yn sôn am fanteision sioeau masnach Llywodraeth Cymru.


Gwybodaeth

Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth i fusnesau drwy ddogfennau a gweminarau fel y rhain gan Lywodraeth Cymru.

Adnabod Partneriaid Rhyngwladol

Grantiau

Mae nifer o asiantaethau yn gallu rhoi busnesau mewn cysylltiad â phartneriaid posib, un ai drwy ffeiriau masnach neu drwy ymweliadau tramor.
Mae modd derbyn grantiau gan asiantaethau er mwyn masnachu dramor. Rhodd ariannol nad oes angen ei thalu’n ôl yw grant.