Modiwl 1: Archwilio cyd-destun rhyngwladol gweithrediadau busnes

Ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis marchnad

 

Mae nifer o ffactorau sy’n effeithio ar ddewis marchnad:

Math o nwydd
Er enghraifft mae gan rai gwledydd ar draws y byd ganran uchel o bobl sy’n dilyn crefydd Islam. Nid yw crefydd Islam yn caniatáu yfed alcohol felly efallai na fyddai cwmni diodydd alcoholaidd yn dewis ehangu i’r gwledydd hynny.
Costau
Mae angen sicrhau nad yw costau gwerthu mewn marchnadoedd yn rhy uchel, e.e. oherwydd costau allforio neu drethi neu dariffau.
Maint y farchnad
Bydd maint y farchnad yn ffactor hollbwysig, yn ogystal â’i demograffeg, h.y. patrwm y boblogaeth. Bydd angen bod yn sicr bod marchnad digon o faint er mwyn i’r risg o fasnachu dramor fod yn un werth chweil.