Cymorth i fusnesau rhyngwladol
Mae yna nifer o asiantaethau sy’n cefnogi busnes rhyngwladol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Busnes Cymru
Dyma hwb busnes Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnig pob math o gymorth i fusnesau gan gynnwys cymorth allforio.
Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy.
Adran Busnes a Masnach y Deyrnas Unedig
Mae hon yn adran dan adain Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau sydd am allforio.
Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy.
Siambrau Masnach Prydain
Mae siambrau masnach yn ffurfio rhwydwaith o sefydliadau lleol sydd â’r nod o hyrwyddo buddiannau busnesau, gan gynnwys cymorth i fasnachu dramor. Siambrau Masnach Prydain (BCC) yw’r corff sy’n cynrychioli 53 siambr fasnach ledled y DU.
Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy.
Sefydliad Siartredig Allforio a Masnach Ryngwladol (Open to Export gynt)
Pwrpas y Sefydliad Siartredig Allforio a Masnach Ryngwladol yw ‘grymuso sefydliadau a rhoi’r arbenigedd i unigolion fasnachu’n effeithiol, yn gynaliadwy ac yn gystadleuol’.
Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy.