Dewis o farchnadoedd i weithredu ynddynt
Mae busnesau yn gallu dewis gweithio mewn economïau datblygedig, economïau llai datblygedig neu farchnadoedd datblygol.
Enghreifftiau o’r rhain yw India a Brasil a gwledydd yn y Dwyrain Canol fel Qatar, ymysg eraill. Mae marchnadoedd sy’n datblygu yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer twf gan fod eu heconomïau yn tyfu. Mae hyn yn creu cyfleoedd i ennill mwy o gwsmeriaid os yw busnes yn gallu sefydlu ei hun yn y wlad, yn enwedig os oes ganddo frand cryf neu nwydd/gwasanaeth sydd ddim yn cael ei gynnig eisoes yn y farchnad. Fodd bynnag, mae marchnadoedd llai datblygedig neu sy’n datblygu/datblygol yn gallu dod â risg uchel yn eu sgil. Yn aml nid yw eu hisadeiledd (heolydd, systemau dosbarthu, banciau, technolegau cyfathrebu) wedi datblygu yn ddigonol i gynnal busnes yn effeithiol. Mae eu systemau llywodraethol hefyd yn gallu bod yn simsan.