Modiwl 1: Deall pwysigrwydd rheoli cyllid personol
About Lesson

Gwasanaethau benthyca

 
Mae gwahanol fathau o fenthyciadau ar gael ar gyfer gwahanol amgylchiadau:

Gorddrafft
Trefniant lle gallwch wario mwy nag sydd gennych yn y banc, ond bydd angen talu llog arno.
Benthyciadau personol
Byddwch yn derbyn swm o arian ac yna yn ei dalu yn ôl, gyda llog, fesul tipyn bob mis am gyfnod.
Hurbwrcas
Ffordd o brynu nwyddau ‘ar gredyd’, yn aml heb log (0% finance). Nid chi sy’n berchen ar y nwydd tan i chi gwblhau’r taliad olaf.
Morgais
Math arbennig o fenthyciad sy’n cael ei ddefnyddio i brynu tŷ/adeilad. Mae cyfnod ad-dalu morgais yn hir – hyd at 25/30 blynedd.
Cardiau credyd
Gallwch dalu am nwyddau gyda chardiau credyd hyd yn oed os nad yw’r arian gennych chi. Yna bydd angen talu’r balans neu ran ohono yn ôl bob mis.
Benthyciadau diwrnod cyflog
Benthyciadau tymor byr am symiau cymharol fach ond sydd â chyfraddau llog uchel iawn.