Modiwl 2: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Dulliau ymchwil y farchnad a’r defnydd ohonynt

 

Gellir defnyddio dau fath o ymchwil sef ymchwil gynradd ac ymchwil eilaidd. Mae ymchwil gynradd yn ymwneud â darganfod eich gwybodaeth newydd eich hun. Mantais ymchwil gynradd yw eich bod chi fel busnes yn gallu penderfynu ar yr union fath o wybodaeth rydych eisiau ei chasglu felly mae’n hollol berthnasol i’ch amgylchiadau ac anghenion bob tro. Anfanteision ymchwil gynradd yw bod casglu’r wybodaeth yn gallu bod yn ddrud os oes angen i fusnes ddefnyddio asiantaeth neu gwmni arbenigol ac mae’n cymryd amser os ydych yn ei wneud eich hun.

 

Ymchwil Gynradd

 

Mae ymchwil gynradd yn cynnwys gwahanol ddulliau er mwyn casglu’r wybodaeth. Cliciwch arnynt i weld mwy.

Arolwg
Mae arolygon yn golygu defnyddio holiaduron i ddarganfod mwy ynglŷn â’r farchnad darged. Mae holiaduron yn gyfres o gwestiynau y mae angen i gwsmeriaid eu hateb er mwyn i fusnes wybod mwy amdanynt. Mae holiaduron yn ddefnyddiol am eu bod yn gofyn yr un cwestiynau i bawb, sy’n sicrhau cysondeb. Gellir gwneud holiaduron wyneb yn wyneb, drwy’r post neu ar-lein felly mae’n hawdd cyrraedd cyfranwyr.

Dyma enghraifft o dudalen o holiadur y Cyfrifiad. Mae’r Cyfrifiad yn arolwg sy’n digwydd bob 10 mlynedd yn y Deyrnas Unedig ac mae gofyn i bob teulu ei lenwi ar ddiwrnod penodol. Oherwydd maint mawr y sampl mae’r Cyfrifiad yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth. Cynhaliwyd y Cyfrifiad mwyaf diweddar yn 2021.

Dyma enghraifft o dudalen o holiadur y Cyfrifiad.

Cyfweliad

Mae cyfweliadau’n golygu cwrdd un i un gyda chwsmeriaid. Mewn cyfweliad gellir gofyn cwestiynau ynglŷn â’r nwydd neu wasanaeth a thrafod gyda’r cwsmer. Gellir defnyddio’r un math o gwestiynau â mewn holiadur ond mae modd holi’n ddyfnach a chael trafodaeth fwy eang. Mae’r dull hwn yn gallu casglu llawer o wybodaeth ond mae’n cymryd amser ac mae maint y sampl yn fach oni bai bod nifer fawr o gyfweliadau’n cael eu cynnal.

Arsylwi

Arsylwi yw gwylio sut mae’r cwsmer yn ymateb neu’n ymddwyn yn gyffredinol. Defnyddir y math hwn o ymchwil gan archfarchnadoedd er mwyn gweld sut mae cwsmeriaid yn symud o gwmpas y siop. Yn y modd hwn maent yn gwybod ble i leoli nwyddau maen nhw eisiau i gwsmeriaid sylwi arnynt a’u prynu.

Y tro nesa rydych chi yn yr archfarchnad, sylwch pa nwyddau sydd ar ymylon yr aleon a pha nwyddau sydd yn eich llinell golwg a pha rhai sy’n uwch ac yn is. Oes patrwm amlwg?

Treialon
Mae treialu nwydd neu wasanaeth yn rhoi cyfle i gwsmeriaid roi cynnig ar y nwydd a rhoi adborth. Mae hefyd yn gyfle i fusnes weld sut bydd y nwydd neu wasanaeth yn gweithio yn y byd go iawn. Gwelir hyn yn aml gydag apiau a meddalwedd lle gall y cwsmer gael 7 diwrnod neu 30 diwrnod am ddim os yw’n cofrestru am danysgrifiad.

 Dilynwch y ddolen Cwmwl Clyd
Pam ydych chi’n meddwl bod Cwmwl Clyd yn cynnig sesiwn am ddim?
Grwpiau ffocws

Grŵp ffocws yw grŵp o ddefnyddwyr sy’n cael eu tynnu at ei gilydd i drafod nwydd. Mae hyn yn gallu rhoi llawer o wybodaeth i fusnesau ynglŷn â theimladau cwsmeriaid am y nwydd ac mae’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn i fusnes sydd eisiau lansio nwydd newydd neu ddeall mwy am sut mae defnyddwyr yn teimlo am nwydd sydd eisoes ar y farchnad.

Ymchwil Eilaidd

 

Mae ymchwil eilaidd ar y llaw arall yn ymwneud â gwybodaeth sydd ar gael yn barod. Gall fod yn fewnol neu’n allanol. Un o fanteision ymchwil eilaidd yw y gall fod yn gyflymach nag ymchwil gynradd am ei fod ar gael yn barod. Dylai fod yn rhatach hefyd, er bod angen talu am rai ffynonellau ymchwil eilaidd.

Ond, nid yw ymchwil eilaidd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion y busnes ac mae’n gallu cymryd amser ac arian i’w addasu at eu pwrpas. Hefyd, gydag ymchwil sy’n dod o’r tu allan i’r busnes,  oni bai bod yr ymchwil yn manylu ar eu methodoleg, does dim ffordd i wybod os yw’r ymchwil wedi cael ei wneud mewn ffordd ddibynadwy.

Ymchwil eilaidd fewnol

Dyma ddata sydd gan y busnes yn barod, er enghraifft ffigurau gwerthiant.

O’r ffigurau hyn maent yn gallu gweld pryd maent yn gwerthu mwy neu lai o nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys beth mae pobl yn ei brynu ar wahanol adegau o’r wythnos, y flwyddyn a thros amser.

Mae ganddynt hefyd unrhyw ymchwil y farchnad y maent wedi’i wneud yn y gorffennol.

Mae rhai busnesau’n cynnig cardiau ffyddlondeb. Mae’r rhain yn galluogi i fusnes gadw llawer o wybodaeth ynglŷn â’i gwsmeriaid yn ogystal â beth y maent yn ei brynu. Mae’r cwsmer yn dewis rhoi’r wybodaeth hon i’r busnes er mwyn cael cynigion arbennig.

Mae Clubcard Tesco yn gerdyn ffyddlondeb adnabyddus. Mae’r sgrinlun isod yn dangos yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cofrestru.

Tesco

Pa wybodaeth fydd gan Tesco am y cwsmer?

Sut fydd y wybodaeth hon o ddefnydd i Tesco?

Mae cardiau ffyddlondeb yn rhoi llawer iawn o wybodaeth i fusnesau gan fod modd iddynt baru’r pryniant gyda’r math o gwsmer. Er enghraifft, bydd Tesco yn gwybod beth mae’r cwsmer yn ei brynu, ei rywedd a’i leoliad daearyddol ac felly maent yn gallu creu darlun o’u cwsmeriaid presennol sydd yn eu helpu i dargedu marchnata’n fwy effeithiol at y cwsmeriaid hyn a rhai tebyg.

Ffynonellau allanol
Mae ffynonellau allanol yn cynnwys adroddiadau a gyhoeddir yn fasnachol, ystadegau’r llywodraeth, cyfnodolion masnach, ffynonellau o’r cyfryngau. Mae gan Lywodraeth Cymru uned ystadegau ac ymchwil sy’n cyhoeddi gwahanol fathau o ymchwil sydd ar gael i fusnesau eu defnyddio. Er enghraifft, dyma ei hymchwil ar dueddiadau a theimladau teithwyr i Gymru o’r Unol Daleithiau:

Llywodraeth Cymru

Mae cwmnïau ymchwil arbenigol fel Ipsos, Kantar a YouGov hefyd yn gallu gwneud ymchwil ar ran busnesau. Maent hefyd yn gwneud ymchwil gyffredinol sy’n gallu bod yn ddefnyddiol. Mae cylchgronau masnach hefyd yn gallu bod yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth i fusnesau. Mae cannoedd o gylchgronau masnach ar gyfer gwahanol sectorau. Cliciwch yma i weld enghreifftiau ohonynt:

WH Smith