Dadansoddiad Pum Grym Porter
Yn ei lyfr ‘Competitive Strategy: Techniques for Analyzing Industries and Competitors,’ disgrifiodd Michael Porter y pum grym sy’n effeithio ar lwyddiant busnes mewn diwydiant. Mae Porter yn dweud y bydd busnes am geisio newid y rhain er mwyn bod yn llwyddiannus.
Pŵer bargeinio cyflenwyr
Pa mor hawdd yw hi i gyflenwyr yrru prisiau i fyny?
Fel pob busnes mae cyflenwyr eisiau gwneud elw ac felly eisiau codi eu prisiau mor uchel â phosib. Bydd mantais gystadleuol busnes felly yn cael ei effeithio gan bŵer cyflenwyr. Os yw pŵer cyflenwyr yn uchel e.e. oherwydd mai nhw yw’r unig gyflenwyr mewn marchnad, byddant yn gallu hawlio prisiau uwch. Bydd hwn yn ei dro yn codi costau busnesau sy’n prynu ganddynt a’u gwneud yn llai cystadleuol. Mae pŵer cyflenwyr felly yn allweddol.
Pŵer bargeinio prynwyr
Mae’r pŵer sydd gan brynwyr hefyd yn effeithio ar fantais gystadleuol. Os yw’r cwsmer yn bwerus, mae’n gallu gwthio’r pris y mae’n fodlon ei dalu i lawr. Er enghraifft mae archfarchnadoedd yn y Deyrnas Unedig yn bwerus ac felly yn gallu gwthio’r prisiau y maent yn fodlon eu talu i ffermwyr am eu nwyddau i lawr.
Darllenwch yr erthygl
Yn eich barn chi , a ddylai’r archfarchnadoedd wneud mwy i helpu ffermwyr?
Bygythiad Newydd Ddyfodiaid
Pa mor hawdd yw hi i fusnesau newydd ddod i mewn i’r farchnad?
Mae cwmnïau newydd yn dod i mewn i’r farchnad yn creu ansicrwydd ac yn rhoi pwysau ar fusnesau sy’n bodoli yn y farchnad. Mae pa mor hawdd yw cael mynediad at farchnad yn cael ei alw’n ‘rhwystrau mynediad’. Pan fo’r rhwystrau mynediad yn isel mae’n hawdd dechrau busnes yn y farchnad honno. Er enghraifft, petaech eisiau dechrau busnes glanhau ffenestri, byddai ond angen i chi brynu’r offer er mwyn dechrau masnachu – mae’r rhwystrau mynediad yn isel. Ar y llaw arall os yw rhwystrau mynediad yn uchel, mae’n anodd cael mynediad at y farchnad. E.e. petaech eisiau dechrau cwmni awyrennau mae’r rhwystrau mynediad yn llawer uwch oherwydd y gost o brynu nwyddau cyfalaf fel awyrennau.
Amnewidynnau
Pa mor hawdd yw hi i gwsmer newid i brynu nwydd neu wasanaeth arall?
Amnewidyn yw rhywbeth y gallwch ei ddefnyddio yn hytrach na’r nwydd neu wasanaeth e.e. mae gwesty yn cystadlu gyda gwestai eraill ond maent hefyd yn cystadlu gydag unrhyw fusnes arall sy’n cynnig lle i aros dros nos fel ystafelloedd a thai ar AirBnb, lleoliadau gwely a brecwast, hosteli ac ati. Y mwyaf o amnewidynnau sydd ar gael ar gyfer y nwydd neu wasanaeth, y lleiaf fydd eich mantais gystadleuol.
Cystadleuaeth ymysg cwmnïau presennol
Faint o fusnesau sy’n gwerthu’r un math o nwydd/gwasanaeth?
Mae pa mor frwd yw’r gystadleuaeth o fewn marchnad yn ffactor allweddol hefyd. Os yw cystadleuaeth yn frwd yna bydd y prisiau y mae un busnes yn y diwydiant hwn yn gallu eu codi’n is gan fod yr orfodaeth i gystadlu’n debygol o yrru prisiau i lawr.