Dadansoddiad 5C
Mae dadansoddiad 5C yn ffordd arall dda i fusnes ddadansoddi ei sefyllfa fewnol ac allanol; mae’n syml i’w wneud ac mae’n effeithiol. Fel arfer fe’i defnyddir fel rhan o broses farchnata cwmni.
C(ompany) – Cwmni
Dyma’r cwmni ei hun. Gellir defnyddio SWOT yn y rhan hon i ddeall nodweddion y cwmni o ran brandio a manteision cystadleuol.
C(ompetitors) – Cystadleuaeth
Gellir wedyn edrych ar eich cystadleuaeth, h.y. y busnesau hynny y gallai eich cwsmeriaid fynd atynt i brynu’r un nwyddau/gwasanaethau.
Gallwch edrych ar strategaethau’r gystadleuaeth, eu cryfderau a gwendidau, ac ystyried a oes cystadleuaeth newydd yn debygol o ddod i’r amlwg.
C(ustomers) – Cwsmeriaid
Dyma’r bobl sy’n prynu gan gwmni. Wrth ddeall pwy yw eich cwsmeriaid yn dda gallwch dargedu eich nwyddau a’ch gwasanaethau yn fwy effeithiol.
C(ollaborators) – Cydweithredwyr
Dyma’r bobl a busnesau y mae’r busnes yn gweithio gyda nhw:
Cyflenwyr, buddsoddwyr, cyflenwyr gwasanaeth.
C(limate) – Cyd-Destun
Yn y categori cyd-destun ceir y ffactorau eraill sydd yn allanol i’r busnes e.e. y gyfraith, tueddiadau economaidd, demograffeg, tueddiadau cymdeithasol, newidiadau mewn technoleg.