Modiwl 2: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Adnabod marchnadoedd targed

 

Marchnad darged yw’r grŵp o bobl y mae’r busnes yn bwriadu eu targedu ar gyfer ymgyrch farchnata. Gall fod yn grŵp enfawr gyda nodweddion gweddol debyg e.e. menywod ifanc yn y Deyrnas Unedig neu grŵp gweddol fach gyda nodweddion llawer mwy tebyg e.e. menywod ifanc sy’n hoff o bêl-droed yn ardal Llanelli.

Mae adnabod y farchnad darged yn hollbwysig er mwyn i fusnes allu targedu ei farchnata tuag ati. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r cwmni’n gwastraffu amser ac arian yn hysbysebu a hyrwyddo i bobl nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei nwydd neu wasanaeth.

 

Pwy yn eich barn chi yw’r farchnad darged ar gyfer y nwyddau canlynol:

  • – Bocs brechdanau Harry Potter
  • – Sengl Sage Todz
  • – Iogwrt llaeth almon