Adnabod maint, strwythur a thueddiadau yn y farchnad
Unwaith iddo ddarganfod y farchnad darged, mae’n bwysig i fusnes ddysgu mwy amdano. Bydd angen darganfod maint y farchnad. Gall marchnadoedd fod yn fyd-eang neu’n fach, neu’n arbenigol. Bydd y ffordd y mae’r busnes yn cyrraedd ei farchnad darged yn cael ei heffeithio gan y maint. Er enghraifft, bydd cwmni sy’n targedu marchnad eang eisiau hysbysebu mewn cyfryngau sydd â chyrhaeddiad eang fel y teledu neu bapurau newydd cenedlaethol, tra bod busnesau sy’n targedu marchnadoedd bach yn defnyddio cyfryngau â chyrhaeddiad llai fel cylchgronau arbenigol neu bapurau newydd lleol.
Strwythur y farchnad yw ei demograffeg. Hynny yw, beth yw nodweddion y cwsmeriaid o fewn y farchnad darged o ran rhyw, oedran, incwm ac ati. Mae gan wahanol gwsmeriaid wahanol anghenion a chwantau.
Mae tueddiadau yn y farchnad yn ymwneud â phryd a sut mae pobl yn prynu nwyddau neu wasanaethau ac mae gwybod am y tueddiadau hyn yn bwysig i fusnesau. Mae gan fusnesau sydd wedi sefydlu ers amser hir lawer o wybodaeth ynglŷn â thueddiadau eu marchnad o’u data gwerthiant mewnol. I fusnesau newydd, bydd gwybod beth yw’r tueddiadau yn y farchnad yn anoddach a bydd angen gwneud ymchwil i ddarganfod hyn – yn aml ymchwil eilaidd.
Mae chwaeth pobl a’u penderfyniadau mewn bywyd yn gallu newid dros amser felly mae’n bwysig nodi hyn. Er enghraifft, mae mwy o bobl wedi dewis bwyta bwydydd seiliedig ar blanhigion yn y blynyddoedd diwethaf. Mae newidiadau fel hyn yn effeithio ar batrymau prynu cwsmeriaid o’r bwyd y maent yn ei brynu i’r dillad y maent yn eu gwisgo.