Modiwl 2: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Cylch bywyd y cynnyrch

 

Ystyrir bod gan nwyddau gylch bywyd – hynny yw patrwm o bryniant sy’n digwydd trwy gydol oes y nwydd neu wasanaeth.

Wrth fynd ati i ymchwilio’r farchnad a chreu cynllun marchnata mae’n werth ystyried ym mha ran o’r cylch bywyd y mae’r nwydd neu wasanaeth dan sylw.

Gweler isod gylch bywyd. Fel y gwelwch, mae’n dangos gwerthiant nwydd dros gyfnod o amser. Mae lle mae’r nwydd yn ei gylch bywyd yn effeithio ar y math o hyrwyddo a hysbysebu sy’n debygol o fod yn llwyddiannus. 

Cylch Bywyd
Cyflwyniad

Yn y cyfnod cyflwyno mae’r nwydd yn newydd i’r farchnad. Yn ystod y cyfnod hwn ni fydd llawer o bobl yn gwybod am y cynnyrch a bydd hyrwyddo a hysbysebu’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth. Mae hwn yn gyfnod drud i gwmnïau gan na fydd llawer o arian yn dod i mewn o werthu’r nwydd neu gynnyrch ond mae’n rhaid talu am hysbysebu a hyrwyddo.

Yn ystod y cyfnod hwn efallai bydd cwmni hefyd yn gosod pris isel ar y nwydd er mwyn perswadio pobl i’w brynu neu’n rhoi samplau am ddim er mwyn i gwsmeriaid roi cynnig ar y nwydd. Mae incwm felly yn isel (neu’n negyddol) yn y cyfnod hwn.

Twf

Yn y cyfnod hwn mae gwerthiant y nwydd yn tyfu’n gyflym wrth i bobl ddod i wybod amdano. Bydd pobl hefyd yn ail-brynu a bydd teyrngarwch yn cael ei adeiladu. Efallai y bydd pobl yn dechrau argymell y nwydd i ffrindiau neu gymheiriaid. Mae’r nwydd yn dechrau dod yn broffidiol yn y cyfnod yma. Mae’n gyfnod cyffrous i fusnesau ond bydd cystadleuwyr yn dechrau sylwi ar nwyddau newydd llwyddiannus.

Aeddfedrwydd

Dyma pryd mae gwerthiant nwydd yn sefydlogi wrth i nifer y prynwyr newydd arafu. Efallai y bydd cystadleuwyr yn dod i mewn i’r farchnad. Gall nwyddau neu wasanaethau fod yn y cyfnod hwn am amser maith neu am gyfnod byr gan ddibynnu ar eu rhinweddau. Er enghraifft mae gwerthiant Diet Coke wedi bod yn sefydlog am nifer fawr o flynyddoedd ers ei lansio ym 1980.  Mae pawb yn gwybod amdano ac mae ei gyfran o’r farchnad wedi bod yn sefydlog ar tua 9% o’r farchnad ar gyfer diodydd meddal. Mae wedi bod yn y cyfnod aeddfedrwydd ers tua 35 o flynyddoedd.

Ar y llaw arall mae gan rai nwyddau gyfnod twf ac aeddfedrwydd byr. Er enghraifft, ydych chi’n cofio Pokemon Go? Datblygwyd yr Ap yn 2016 ond yn 2020/21 cafwyd twf mawr yn ei werthiant wrth i bobl ei ddarganfod yn ystod y pandemig Covid 19. Erbyn hyn mae’r gwerthiant wedi gostwng yn sylweddol.

Edrychwch ar y graff isod. Am sawl blwyddyn bu Pokemon Go mewn aeddfedrwydd? Pokemon GO

Dirywiad

Yn y pen draw mae’n bosibl y bydd y galw am nwydd yn dechrau dirywio, hynny yw bydd y gwerthiant yn dechrau gostwng. Mae hyn yn gallu bod o ganlyniad i nifer o ffactorau fel chwaeth pobl yn newid, cystadleuwyr yn dod i mewn i’r farchnad, newidiadau mewn deddfwriaeth ac ati.

Er mwyn osgoi hyn mae busnesau’n creu strategaethau ymestyn. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:

Cyflwyno blasau/nodweddion gwahanol.

Gall hyn fod yn newid y rysáit, cyflwyno blasau gwahanol, cynnig fersiwn di-glwten neu di-siwgr neu di-alcohol er enghraifft.

Sawl fersiwn o Coca Cola ydych chi’n gallu eu henwi?

Targedu marchnad darged gwahanol

Gellir gwneud hyn trwy ddatblygu’r nwydd i apelio at farchnad wahanol, fel cwmni Innocent Smoothies yn datblygu eu diodydd ar gyfer plant.

Datblygu detholiad newydd o nwyddau
Cwmni sy’n gwneud hyn yn aml yw Lego. Er bod y briciau gwreiddiol wedi aros mwy neu lai’r un peth, mae setiau Lego wedi newid yn fawr er mwyn cadw diddordeb cwsmeriaid. Yn aml maent yn datblygu setiau i gyd-fynd â ffilmiau poblogaidd sy’n apelio at blant a phobl ifanc (ac oedolion!) Mix