Modiwl 2: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Pwysigrwydd dilysrwydd, dibynadwyedd, priodoldeb, cyfredoldeb, cost

 

Mae’n bwysig fod busnesau yn gallu ymddiried yn y data maent yn ei gasglu ac felly mae’n bwysig fod ganddo briodweddau penodol. Gellir gweld nhw isod. Cliciwch ar y geiriau i gael gwybod mwy:

Dilysrwydd

Mae dilysrwydd yn canolbwyntio ar gywirdeb set o fesurau ymchwil.

Hynny yw, ydy’r ymchwil yn mesur beth yr oedd i fod i fesur ac a yw’n adlewyrchiad teg o’r sefyllfa go iawn.

Wrth ddefnyddio data eilaidd mae angen sicrhau bod y wybodaeth yn ddilys trwy wirio ffynonellau’r data a defnyddio mwy nag un darn o wybodaeth er mwyn cadarnhau’r casgliadau.

Dibynadwyedd

Mae dibynadwyedd yn ymwneud â sicrhau bod y ffordd mae’r data’n cael ei gasglu’n arwain at ganlyniadau cyson. A fyddai’r canlyniadau’n gallu cael eu hailadrodd?

Priodoldeb

Mae angen i’r ymchwil fod yn briodol i’r wybodaeth sydd ei hangen. Does dim llawer o ddiben mynd at ddata ymchwil eilaidd i geisio darganfod a yw pobl yn hoff o flas eich cynnyrch – ni fydd yr ateb ar gael gan nad yw’r ffynhonnell yn briodol.

Yn yr un modd, does dim angen gwneud ymchwil gynradd i ateb cwestiynau sy’n gallu cael eu hateb gan ymchwil sydd eisoes yn bodoli. Er enghraifft, petai busnes eisiau gwybod faint o bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru, byddai’n llawer mwy priodol cyfeirio at ddata sydd eisoes yn bodoli yn hytrach na cheisio gwneud ei ymchwil gynradd ei hun.

Mae hefyd angen i fusnesau sicrhau bod yr ymchwil wedi’i chasglu mewn modd priodol. Er enghraifft, mae’n rhaid cadw deddfau diogelu data mewn cof wrth ddefnyddio data personol pobl.

Cyfredoldeb

Mae byd busnes yn newid yn gyflym felly mae’n bwysig bod unrhyw ymchwil a wneir yn gyfredol – hynny yw wedi’i wneud mewn cyfnod o amser sy’n addas. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo digwyddiadau mawr yn effeithio ar y farchnad neu mewn marchnad sy’n symud yn gyflym fel technoleg gwybodaeth, technoleg gynaliadwy ac ati. Yn gyffredinol, y mwyaf cyfredol yw’r data, gorau oll, ond gall data hŷn fod yn ddefnyddiol hefyd er mwyn dangos tueddiadau neu newidiadau dros amser.

Cost

Mae cost ynghlwm â gwneud ymchwil neu gasglu ymchwil. Fel y soniwyd eisoes, mae ymchwil gynradd yn gallu bod yn fwy costus i’w wneud ond mae data eilaidd hefyd yn gallu bod yn ddrud i’w brynu ac nid yw bob amser yn ddigon penodol at ei bwrpas. Pa bynnag fath o ddata a ddefnyddir, mae cost ynghlwm â’r amser y mae’n ei gymryd i’w gasglu, ei ddadansoddi a’i gyflwyno. Mae busnes yn gorfod pwyso a mesur y gost o ddefnyddio dull ymchwil penodol o’i gymharu â dull arall cyn dod i benderfyniad ynglŷn â pha un i’w ddefnyddio.