About Lesson
Dethol ac echdynnu
Efallai y bydd busnesau’n casglu llawer iawn o wybodaeth wrth wneud eu hymchwil. Nid yw’n bosibl defnyddio pob darn o wybodaeth a bydd angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha ymchwil i’w gynnwys a pha wybodaeth i’w hepgor. Mae hyn yn gallu bod yn wir yn enwedig gydag ymchwil ansoddol sy’n anodd i’w dadansoddi a’i chyflwyno mewn ffordd gynnil. Bydd angen bod yn ofalus pa wybodaeth sy’n cael ei hepgor er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei chynnwys yn dangos y darlun go iawn.
Mae’n gallu bod yn demtasiwn blaenoriaethu canfyddiadau sy’n cefnogi eich damcaniaeth ond mae hynny’n gallu bod yn wrthgynhyrchiol yn y pen draw.