Datblygu’r rhesymeg
Rhesymeg yw’r rheswm penodol dros wneud yr ymchwil a beth rydych chi eisiau ei gael allan ohono. Mae’n bwysig gallu datblygu rhesymeg ar gyfer ymchwil er mwyn cael y gorau ohoni. Gwyliwch y fideo sy’n esbonio rhai o’r cwestiynau y dylai busnesau eu hystyried wrth gynllunio eu hymchwil.
Dehongli, dadansoddi a defnyddio data a gwybodaeth arall i wneud penderfyniadau marchnata dilys.
Unwaith y mae gan y busnes wybodaeth o’r ymchwil, bydd angen dadansoddi’r data er mwyn iddi wneud synnwyr. Mae’n bwysig sylwi ar batrymau ond mae hefyd yn bwysig peidio gweld patrymau lle nad oes rhai.
Mae rhaglenni cyfrifiadurol yn ddefnyddiol iawn wrth ddehongli a dadansoddi data gan wneud llawer o’r gwaith ar eich rhan. Maent hefyd yn gallu dangos y data mewn ffordd hylaw.
Mae nifer o raglenni ar-lein e.e. Forms neu Survey Monkey sy’n eich galluogi i lunio holiaduron ond sydd hefyd yn gallu coladu’r data a’i arddangos.
Yn aml mae’n fanteisiol trefnu’r wybodaeth ar ffurf graffigol gan ei fod yn aml yn haws gweld patrymau yn weledol.
Mae defnyddio cyfartaleddau yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn hefyd wrth ddadansoddi data er mwyn arddangos y tueddiad canolig sy’n fan cychwyn defnyddiol.
Gwyliwch y fideo i wybod mwy am ddadansoddi data.
Adnabod unrhyw ffynonellau gwybodaeth ychwanegol y gallai fod eu hangen.
Yn aml bydd ymchwil yn codi mwy o gwestiynau y bydd angen eu hateb. Oherwydd hyn efallai y bydd angen dod o hyd i wybodaeth o ffynonellau amgen er mwyn ateb y cwestiynau hyn. Wedi dweud hyn mae’n bwysig osgoi mynd i lawr tyllau cwningen lle mae’r ymchwil yn dechrau dod yn llai a llai perthnasol i bwrpas dechreuol yr ymchwil.
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol dechrau gydag ymchwil eilaidd ac yna llunio ymchwil gynradd i ateb y cwestiynau sydd heb eu hateb neu sydd wedi codi o ganlyniad i’r ymchwil.
Gwerthuso dibynadwyedd a dilysrwydd y wybodaeth a gesglir
Rhan bwysig o resymeg ymchwil yw gwerthuso dibynadwyedd y data sy’n cael ei gasglu. Os yw’r cynllun yn cynnwys data cynradd bydd angen sicrhau ei fod wedi’i gasglu mewn ffordd briodol er mwyn sicrhau ei fod yn ateb anghenion yr ymchwil, yn dangos y gwir sefyllfa ac y byddai’n dod i’r un canlyniad petai’n cael ei gynnal eto.
Os defnyddir data eilaidd mae’n rhaid ymchwilio i ffynonellau’r data er mwyn sicrhau eu bod yn ddibynadwy e.e. cyhoeddiadau’r Llywodraeth neu ffynonellau ymchwil cydnabyddedig. Edrychwch am wybodaeth sydd â chyfeiriadau llawn neu sydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid.
Fel arfer bydd ymchwil ddibynadwy yn disgrifio methodoleg casglu’r data.