Data meintiol ac ansoddol, ble a sut y caiff ei ddefnyddio
Yn gyffredinol gellir dweud bod data meintiol yn addas ar gyfer casglu gwybodaeth am y farchnad tra bod ymchwil ansoddol yn addas ar gyfer gwella dealltwriaeth o’r farchnad.
Mae data meintiol yn ymwneud â’r hyn y gellir ei fesur a’i feintioli. Hynny yw data y gellir rhoi rhif arno. Er enghraifft gellir mesur faint o bobl mewn ardal sy’n siarad Cymraeg neu sy’n fenywod neu’n ddynion. Mae’r wybodaeth hon yn haws i’w thrafod a’i chyflwyno ar ffurf graffiau er enghraifft. Gellir casglu data meintiol trwy ofyn cwestiynau caeedig ar holiadur – er enghraifft, gofyn cwestiynau ydy/nac ydy.
Cliciwch ar y ddolen i weld enghreifftiau o gwestiynau caeedig:
Mae data ansoddol ar y llaw arall yn ymwneud â theimladau pobl. Mae’n llawer anoddach ei ddadansoddi a’i gyflwyno ond mae’n gallu bod yn fwy defnyddiol i fusnesau. Dulliau da o gasglu gwybodaeth ansoddol yw grwpiau ffocws a chyfweliadau lle mae modd trafod gyda phobl neu annog sgwrs rhwng cwsmeriaid.
Gwyliwch y fideo i weld mwy o wybodaeth ynglŷn â data meintiol ac ansoddol