Modiwl 2: Cynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson
Ffocws

Digonolrwydd a ffocws yr ymchwil

 

Mae’n annhebygol y byddai busnes yn gallu casglu barn pawb yn ei farchnad darged a bydd ymchwil yn aml yn cael ei wneud ar sampl o boblogaeth neu farchnad darged. Mae’n bwysig iawn bod gofal yn cael ei gymryd wrth benderfynu ar faint a nodweddion y sampl er mwyn sicrhau ei fod mor debyg â phosibl i’r farchnad gyfan. Mae hefyd yn bwysig bod y sampl yn ddigon mawr i fod yn gynrychiadol neu bydd y data sy’n cael ei gasglu’n anghywir. Gyda sampl bach mae mwy o bosibilrwydd y byddwch yn dod ar draws tuedd ystadegol.

Tuedd ystadegol yw’r gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif a’r gwirionedd. Er enghraifft, dychmygwch eich bod mewn dosbarth o 20 o fyfyrwyr. Petai eich sampl chi ddim ond yn cynnwys tair merch, ni fyddai eich sampl yn debygol o fod yn gynrychiadol o’r holl ddosbarth.

Yn gyffredinol, y mwyaf yw’r sampl, y mwyaf cywir fydd y canlyniadau.