About Lesson
Amgylchedd Cystadleuol
Mae amgylchedd cystadleuol busnes yn ymwneud â’r gystadleuaeth sydd o’i gwmpas, h.y. yr effaith mae busnesau eraill sy’n cystadlu am yr un cwsmeriaid yn ei chael.
Cystadleuaeth
Gellir cael cystadleuaeth leol, cenedlaethol neu ryngwladol gan ddibynnu ar natur y busnes. Er enghraifft, mae busnes bach trin gwallt yn Nhreorci yn cystadlu ar raddfa leol gyda siopau trin gwallt eraill ond mae cwmni mawr fel Admiral yn cystadlu gyda busnesau ar draws y Deyrnas Unedig fel Churchill neu LV.