Modiwl 3: Yr Amgylchedd y mae Busnes yn Gweithredu Ynddo
About Lesson

Ffactorau sy’n effeithio ar fantais gystadleuol

 

Yn syml, mantais gystadleuol yw gwneud pethau’n well na’r gystadleuaeth. Neu mewn geiriau eraill, y gallu i gynhyrchu nwyddau neu wasanaethau sy’n cynnig gwell gwerth am arian neu am bris is o gymharu â’u cystadleuwyr. Mae nifer o ffactorau sy’n effeithio ar fantais gystadleuol, gadewch i ni edrych ar rai ohonynt. Cliciwch ar y blwch i gael gwybod mwy.

Gwahaniaethu

Mae gwahaniaethu’n ymwneud â pha mor wahanol y mae eu cynnyrch neu wasanaeth o gymharu â chystadleuwyr. Bydd gan nwyddau neu wasanaethau sy’n wahanol iawn i’r arfer neu sy’n newydd i’r farchnad lawer llai o gystadleuaeth na nwyddau neu wasanaethau sy’n debyg i’w cystadleuwyr. Gall busnesau sydd â phwynt gwerthu unigryw (USP – Unique Selling Point) fwynhau mantais gystadleuol uchel ac yn aml byddant yn diogelu’r fantais gwerthu unigryw honno trwy ddiogelu eu cynnyrch gyda phatent neu nod masnachu.

Polisïau prisio

Gall polisïau prisio gwahanol gael eu defnyddio i roi mantais gystadleuol i fusnes. Yn amlwg, gall fusnes osod ei bris yn is na’i gystadleuwyr ond mae polisïau prisio eraill y gall busnes eu defnyddio fel prisio cost plws er mwyn sicrhau ei fod yn gallu talu ei gostau ond hefyd strategaethau fel ‘arweinydd colled’ lle mae nwydd neu wasanaeth yn cael ei brisio yn is na’r gost i’w gynhyrchu er mwyn denu cwsmeriaid.

Arweinydd y farchnad

Mae gan arweinydd y farchnad fel arfer gyfran fwyaf o’r farchnad.

Cyfran y farchnad yw canran y farchnad y mae busnes yn berchen arno. Mae cael cyfran y farchnad uchel yn sicrhau eich bod yn adnabyddus yn y farchnad a bod cwsmeriaid yn eich adnabod.

Enw da

Mae enw da’n bwysig iawn i fusnesau a gall cael enw da olygu eich bod yn fwy cystadleuol. Mae cwsmeriaid yn hoffi prynu nwyddau a gwasanaethau oddi wrth fusnesau y maent yn ymddiried ynddynt. Mae cael enw da’n adeiladu’r ymddiriedaeth honno ac yn arwain at fwy o werthiannau.

Rheoli costau

Mae rheoli costau’n gallu bod yn bwysig i gael mantais gystadleuol oherwydd drwy reoli costau mae busnes yn gallu bod yn fwy proffidiol.

Technoleg
Gall technoleg ddod â mantais gystadleuol gan ei fod efallai’n golygu bod modd i fusnes arloesi. Er enghraifft, cwmni Lion Laboratories yn Y Barri oedd y cyntaf i greu anadliedyddion a ddyfeisiwyd gan ei sylfaenydd yn 1979. Bellach mae’r cwmni yn allforio ar draws y byd. Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy:

Lion Laboratories

Perthynas â chwsmeriaid

Fel y nodwyd uchod, mae cwsmeriaid yn hoffi ymwneud â busnesau y maent yn ymddiried ynddynt ac sy’n eu trin mewn ffordd gyfrifol. Mae’n llawer haws i fusnesau gadw cwsmeriaid na denu cwsmeriaid newydd felly gall cael perthynas dda gyda’u cwsmeriaid arwain at fantais gystadleuol.

Gweithwyr

Mae gweithwyr yn ased pwysig i fusnes ac yn gallu bod yn allweddol wrth roi mantais gystadleuol i fusnes. Mae hyn yn enwedig yn wir yn y diwydiannau gwasanaeth. Yn y diwydiannau hyn, bydd y cwmni’n ymgysylltu â’r cwsmer bob dydd fel y gall gael effaith fawr ar sut mae’r busnes yn cael ei weld gan y cwsmer.