Cyfreithiol
Mae’r amgylchedd cyfreithiol yn ymwneud â’r cyfreithiau gwlad y mae angen i fusnesau gydymffurfio â hwy. Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu cyfreithiau gwlad yn seiliedig ar system cyfraith gwlad. Eto yng Nghymru mae gan y Senedd y pŵer i greu deddfau yn y meysydd sydd wedi’u datganoli a’r Llywodraeth yn Lloegr sy’n creu deddfau eraill.
Pan oedd y DU yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, roedd rhai deddfau a rheoliadau’n tarddu o hynny ac mae nifer fawr o’r deddfau hynny’n dal i fod yn gyfredol.
Rydym wedi sôn yn barod am un ddeddf sy’n effeithio ar rai busnesau sef y Ddeddf Partneriaethau. Mae nifer fawr o ddeddfau eraill a all effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau. Cliciwch ar y gwahanol meysydd deddfwriaeth i ddysgu mwy:
Cwmnïau
Deddf Cwmnïau 2006 yw’r brif ddeddf sy’n ymwneud a chwmnïau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ddeddfwriaeth yn rheoli sut mae cwmni’n cael ei reoli, ei redeg a’i ariannu
Elusennau
Mae Deddf Elusennau 2011 yn nodi beth yw elusen, sut y gellir sefydlu elusen a phryd mae angen cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae Deddf Elusennau 2022 yn diwygio Deddf 2011 i roi mwy o bwerau i elusennau wario arian, ymysg pethau eraill.
Cystadleuaeth
Nod Deddf Cystadleuaeth 1998 yw rhwystro busnesau rhag
- – creu cytundebau rhwng mentrau a allai atal, cyfyngu neu lesteirio cystadleuaeth yn y DU
- – camddefnyddio safle dominyddol yn y farchnad a allai gael effaith yn y DU.
Rheolaeth Gorfforaethol
Mae rheolaeth gorfforaethol yn ymwneud â’r hyn y mae bwrdd cwmni yn ei wneud a sut mae’n gosod gwerthoedd y cwmni.
Mae’n seiliedig ar egwyddorion sylfaenol o reolaeth dda: atebolrwydd, tryloywder, cywirdeb a ffocws ar lwyddiant cynaliadwy yr endid dros y tymor hir. Mae’r cod yn berthnasol i gwmnïau ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Rheoleiddio Gwasanaethau Ariannol
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn rheoleiddio’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn y DU. Mae ei rôl yn cynnwys amddiffyn defnyddwyr, cadw’r diwydiant yn sefydlog, a hyrwyddo cystadleuaeth iach rhwng darparwyr gwasanaethau ariannol.
Rheoleiddwyr Diwydiant
Mae rheoleiddwyr yn gyrff sy’n goruchwylio amrywiaeth o ddiwydiannau.
Mae nifer fawr ohonynt i’w cael. Enghreifftiau yw:
- – Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli adnoddau naturiol Cymru
- – Ofcom sy’n rheoleiddio’r diwydiant cyfathrebu yn y DU
- – Estyn sy’n goruchwylio safonau addysg yng Nghymru
Adrannau’r Llywodraeth
Mae gan y Llywodraeth nifer o adrannau sy’n cadw trosolwg o wahanol agweddau ar fywyd bob dydd.