Modiwl 3: Yr Amgylchedd y mae Busnes yn Gweithredu Ynddo
About Lesson

Cymdeithasol

 

Mae ffactorau cymdeithasol yn ymwneud â’r ffordd mae pobl yn byw a natur y gymdeithas:

Agweddau tuag at gynilo

Cynilon yw’r arian mae pobl yn ei roi mewn cyfrifon banc i’w gadw at y dyfodol.  Os oes tueddiad i bobl gynilo, bydd llai o arian yn cael ei wario yn yr economi, ond os yw pobl yn teimlo nad yw cynilo’n bwysig e.e. pan fydd cyfraddau llog yn isel, byddant yn dueddol o wario mwy.

Tueddiadau demograffig

Wrth sôn am ddemograffeg, rydyn ni’n sôn am gyfansoddiad neu siâp y boblogaeth. Gall y tueddiadau hyn effeithio ar fusnesau mewn ffordd gadarnhaol a negyddol. Er enghraifft, mae poblogaeth Cymru yn heneiddio h.y. mae twf yn y boblogaeth sydd dros 65 o 16.4% yn 2011 i 18.6% yn 2021 (Cyfrifiad 2021). Mae hyn yn golygu y bydd busnesau sy’n apelio at y grŵp demograffig hwn yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus.

Chwaeth cwsmeriaid
Mae chwaeth cwsmeriaid yn gallu newid yn gyflym ac mae’n effeithio ar y pethau y maent yn eu prynu a’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. Gallwn weld newidiadau mewn chwaeth cwsmeriaid trwy edrych ar y newidiadau i’w harferion prynu. E.e., yn y blynyddoedd diwethaf mae twf enfawr wedi bod mewn prynu e-feiciau, oriorau clyfar a cheir trydanol.

Mae newidiadau mewn chwaeth cwsmeriaid yn gallu cael effaith negyddol a chadarnhaol ar fusnesau gan ddibynnu ar y newid hwnnw:

 


Darllenwch yr erthygl

BBC Cymru Fyw

Pam mae ffermwyr yn poeni am dwf mewn feganiaeth?