Modiwl 3: Yr Amgylchedd y mae Busnes yn Gweithredu Ynddo
About Lesson

Diwylliant Corfforaethol

 

Diffinnir diwylliant corfforaethol fel y gwerthoedd, agweddau, credoau, ystyron a normau sy’n cael eu rhannu gan bobl a grwpiau o fewn y sefydliad. Dywedodd Charles Handy bod pedwar math o ddiwylliant corfforaethol

Diwylliant Pŵer

Ble mae ffynhonnell bŵer ganolog sy’n gwneud y penderfyniadau i gyd

Diwylliant Rôl

Ble mae pŵer yn gysylltiedig â rôl e.e. Rheolwr cyllid neu reolwr adran

Diwylliant Tasg

Ble mae’r pŵer gan bobl sy’n cwblhau tasgau

Diwylliant Pobl

Ble mae nifer o bobl sydd ag arbenigedd â phŵer yn y cwmni nad ydynt yn cydweithio’n agos o ddydd i ddydd e.e. cwmni cyfreithwyr.

Wrth gwrs, mae manteision i ddiwylliant cryf gan ei fod yn meithrin ymdeimlad o berthyn. Mae pobl yn deall eu lle yn y sefydliad ac yn gallu uniaethu â’r cwmni a gall hyn arwain at gymhelliant uwch.