Modiwl 3: Yr Amgylchedd y mae Busnes yn Gweithredu Ynddo
About Lesson

Amgylcheddol

 

Mae ffactorau amgylcheddol yn dod yn llawer mwy pwysig i fusnesau. Mae pryderon ynghylch newid hinsawdd yn ogystal â’r defnydd o blastigion ac olew palmwydd yn rhai o’r pethau mae defnyddwyr yn poeni amdanynt wrth brynu nwyddau.

Dyma rai o’r pryderon amgylcheddol.

Allyriadau carbon

Mae carbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu wrth losgi tanwydd ffosil, e.e. llosgi glo i wneud trydan, llosgi cerosin mewn injan awyren neu losgi disel mewn injan lori. Mae’r carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer. Gan fod carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr, mae’n dal gwres yn agos i’r ddaear. Mae hyn yn arwain at gynhesu byd-eang, sef un o’r ffactorau sy’n arwain at newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr yn dweud bod angen gostwng carbon deuocsid yn yr atmosffer er mwyn osgoi trychineb hinsawdd.

Gwastraff

Mae ein ffordd gyfoes o fyw yn creu gwastraff e.e amcangyfrifir bod 15 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yn y Deyrnas Unedig yn flynyddol. Mae’r gwastraff bwyd hwn yn dod o unigolion a theuluoedd yn ogystal â thai bwyta, ysgolion, ysbytai, siopau bwyd ac ati.

Ailgylchu

Un o’r ffyrdd o osgoi storio sbwriel tan ei fod yn pydru yw ei ailgylchu – h.y. ei newid yn ôl i mewn i’r un cynnyrch neu gynnyrch arall. Mae’n siŵr eich bod yn gyfarwydd ag ailgylchu yn eich cartref gan fod dros 95% o bobl Cymru yn dweud eu bod yn ailgylchu’n rheolaidd. Mae busnesau hefyd yn gorfod ystyried sut i fynd ati i leihau eu gwastraff. Mae busnesau’n bodoli sydd wedi seilio eu holl fodel busnes ar nwyddau sydd wedi’u ailgylchu e.e. Second-life Products Wales sy’n cynhyrchu meinciau, biniau sbwriel a nwyddau eraill allan o blastig wedi’i ailgylchu.

Llygredd

Yn aml mae llygredd yn cael ei greu fel cynnyrch ochrol o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Ceir llygredd aer, llygredd dŵr a llygredd pridd. Mae llygredd yn cael effaith wael ar iechyd yr amgylchedd a’r bobl sy’n byw ynddo felly mae gofyn i fusnesau leihau llygredd cymaint â phosib ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfyngu ar faint o lygredd y gall busnesau ei allyrru.