Dadansoddiad PESTLE
Mae dadansoddiad PESTLE yn arf defnyddiol i gael darlun mwy clir o amgylchedd allanol busnes fel rhan o gynllunio amcanion a strategaethau busnes. Mae’n archwilio’r ffactorau rydym wedi edrych arnynt uchod
P(olitical) Gwleidyddol
Grymoedd allanol sy’n deillio o’r Llywodraeth a gwleidyddiaeth leol, datganoledig a chenedlaethol gan gynnwys carfannau pwyso.
E(conomic) Economaidd
Grymoedd allanol sy’n deillio o gyflwr yr economi. Os yw’r economi yn mynd yn dda yna bydd busnesau hefyd yn elwa, ond pan fydd yr economi yn wael yna gall y gwrthwyneb fod yn wir.
S(ocial) Cymdeithasol
Grymoedd allanol sy’n deillio o siâp a nodweddion y gymdeithas. Mae newidiadau yn y gymdeithas yn gallu bod yn allweddol er mwyn gwneud penderfyniadau busnes.
T(echnological) Technolegol
Nodweddion sy’n deillio o newidiadau technolegol.
L(egal) Cyfreithiol
Grymoedd cyfreithiol sy’n effeithio ar fusnesau. Gall hyn gynnwys deddfwriaeth sy’n cael ei phasio gan Lywodraeth y DU neu Gymru.
E(nvironmental) Amgylcheddol
Grymoedd amgylcheddol sy’n effeithio ar fusnes fel dewisiadau ynni, llygredd, effaith y tywydd, newid hinsawdd ac ati.