Modiwl 3: Yr Amgylchedd y mae Busnes yn Gweithredu Ynddo
About Lesson

Technolegol

 

Prin y byddai busnes yn gallu bodoli heb ddefnyddio rhyw fath o dechnoleg. O liniaduron i dechnoleg talu â cherdyn symudol i robotiaid, mae technoleg yn rhan bwysig iawn o amgylchedd busnes ac mae datblygiadau technolegol yn gallu agor marchnadoedd, cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Awtomatiaeth
Yn ôl geiriadur Caergrawnt, diffiniad awtomatiaeth yw ‘defnyddio peiriannau neu gyfrifiaduron yn lle pobl i wneud swydd, yn enwedig mewn ffatri neu swyddfa.’

Mae mwyfwy o ddefnydd o awtomatiaeth mewn busnesau. Mae gan awtomatiaeth y fantais o fedru rhedeg 24/7. Does dim angen talu peiriant ac nid yw byth yn sâl. Fodd bynnag, mae’n gallu torri i lawr ac mae angen sicrhau bod peiriannau’n cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd, sy’n gallu bod yn gostus.

Gallwch weld ehangder y defnydd o robotiaid mewn ffatri weithgynhyrchu yn y fideo LEGO:


Ydych chi’n credu y gallai LEGO ateb y galw am eu nwyddau pe na bydden nhw’n defnyddio robotiaid?

Gwella Cyfathrebu

Mae dulliau cyfathrebu wedi newid yn llwyr yn y 50 mlynedd ddiwethaf. Heddiw mae defnydd eang o’r rhyngrwyd wedi gwella cyfathrebu busnes ar draws y byd. Erbyn hyn mae busnesau’n gallu cyfathrebu gyda chwsmeriaid neu fusnesau eraill drwy e-bost, cyfarfodydd fideo a dulliau negeseua sydyn fel Messenger neu WhatsApp. I rai busnesau mae hyn yn golygu ei bod yn llawer haws masnachu dros y byd. Mewn cwmnïau byd-eang bydd timoedd prosiect yn gallu bod mewn nifer o wahanol wledydd ond yn gallu cyfathrebu â’i gilydd yn rhwydd. Mae hyn yn golygu bod busnesau’n gallu manteisio ar fod mewn gwledydd ble mae costau’n is.