Gwleidyddol
Yng Nghymru mae rhai agweddau gwleidyddol fel iechyd, twristiaeth a bellach rhai trethi wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd Llywodraeth ddatganoledig Cymru ym 1999 pan etholwyd 60 Aelod Cynulliad. Gwyliwch Dafydd Iwan yn sôn am yr hanes:
- Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
- Addysg
- Yr amgylchedd
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Tai
- Llywodraeth leol
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Rhywfaint o reolaeth dros dreth
Felly penderfyniadau Llywodraeth Cymru fydd yn effeithio ar fusnesau yn y meysydd hyn. Mae pethau eraill fel trethi cyffredinol, amddiffyn, polisïau tramor ac yn y blaen yn cael eu rheoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae busnesau’n gallu elwa o gefnogaeth gan y Llywodraeth yn ariannol neu drwy ei phenderfyniadau polisi.
Gall busnesau hefyd elwa neu gael eu heffeithio yn negyddol o gysylltiadau gwleidyddol ar draws y byd. Er enghraifft os yw busnesau yn rhan o floc masnachu.
Gan fod masnachu’n rhyngwladol yn gymhleth a bod iddo lawer o reolau mae gwledydd yn aml yn dod at ei gilydd i gytuno telerau fel bloc masnachu. Roedd y DU yn arfer bod yn rhan o floc masnachu yr Undeb Ewropeaidd ond nid yw bellach yn rhan o’r bloc yma. Mae wedi gwneud cytundebau gyda nifer o wledydd eraill gan gynnwys Awstralia.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn marchnata Cymru fel lle ar gyfer busnes ar draws y byd.
Gwyliwch y fideo sy’n enghraifft o’r math hwn o hyrwyddo: Busnes Cymru
Beth yw manteision lleoli yng Nghymru i fusnesau?
Allwch chi feddwl am anfanteision?