Modiwl 3: Yr Amgylchedd y mae Busnes yn Gweithredu Ynddo
About Lesson

Manteision a phwysigrwydd sefydlu a chynnal mantais gystadleuol

 

Mae sefydlu mantais gystadleuol yn bwysig iawn gan fod cwmni sy’n gallu denu cwsmeriaid yn fwy llwyddiannus. Mae cynnal mantais gystadleuol yn golygu y bydd gan fusnes gwsmeriaid ffyddlon a fydd yn parhau i brynu’r nwyddau a’r gwasanaethau. Dylai hynny arwain at fwy o werthiannau ac yn y pen draw, elw uwch. Mae hefyd yn galluogi i fusnes ffynnu pan fydd yr amgylchedd busnes yn anodd.

Dadansoddiad-Sefyllfa

Dadansoddiad Sefyllfa

 

Mae nifer o ffyrdd y gellir dadansoddi sefyllfa fewnol ac allanol busnes. Y rhai mwyaf adnabyddus yw:

PESTLE

SWOT

5C

Pum Grym Porter