Economaidd
Mae polisïau economaidd Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ceisio cynnal economi lewyrchus sy’n tyfu. Maent yn gallu gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Polisi Cyllidol
Mae polisïau cyllidol yn ymwneud â gwariant a threthi’r Llywodraeth. Trwy ei phenderfyniadau cyllidol mae’r Llywodraeth yn gallu rheoli faint o arian sydd yn yr economi. Er enghraifft, os yw Llywodraeth yn codi treth incwm, bydd yn rhaid i bobl dalu mwy o dreth ac felly bydd ganddynt lai o arian i’w wario.
Polisi ariannol
Mae polisi ariannol yn ymwneud â chyfraddau llog. Mae polisi ariannol y DU yn cael ei benderfynu gan Fanc Lloegr felly y banc sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â gosod cyfraddau llog. Mae’n gallu defnyddio cyfraddau llog i geisio sicrhau nad oes gormod neu ddiffyg chwyddiant yn yr economi. Chwyddiant yw twf parhaus mewn prisiau ar draws yr economi – nod chwyddiant y Llywodraeth yw 2%. Os yw chwyddiant yn uchel, mae prisiau’n codi’n gyflym ac nid yw cyflogau’n aml yn codi ar yr un raddfa felly mae pŵer prynu pobl yn gostwng.
Gwyliwch y fideo i weld esboniad pellach:
Polisïau ochr gyflenwad
Un o’r ffyrdd eraill mae’r Llywodraeth yn gallu effeithio ar yr economi y mae busnes yn gweithredu ynddi yw drwy wella gallu cynhyrchedd yr economi – h.y. gwneud yr economi’n fwy cynhyrchiol. Gall wneud hyn drwy fuddsoddi mewn prosiectau e.e. adeiladu ffyrdd neu reilffyrdd newydd er budd busnes. Gall hefyd geisio gwella ansawdd gweithlu’r wlad drwy bolisïau addysg a hyfforddiant.
Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn hybu Prentisiaethau er mwyn helpu busnesau i ddatblygu eu gweithlu:
Twf economaidd
Ar wefan yr ONS, mae graff sy’n dangos GDP y Deyrnas Unedig ers 2007 (Mynegai Misol Ionawr 2007-Ionawr 2023, DU (Data ONS).
Ewch ar wefan yr ONS i gael golwg ar y graff o dan bennawd rhif 2, ‘Monthly GDP’.
Beth oedd y duedd cyn mis Ionawr 2020?
Beth ddigwyddodd ym mis Ionawr 2020?
Cyfraddau cyfnewid
Cyfraddau cyfnewid yw pris arian cyfred yn nhermau arian cyfred arall. Er enghraifft fe fydd y gyfradd gyfnewid ar gyfer yr Ewro yn dangos faint o bunnoedd sydd eu hangen er mwyn prynu ewros a faint o ewros sydd eu hangen er mwyn prynu punnoedd. Mae cyfraddau cyfnewid yn gallu cael effaith fawr ar gwmnïau sy’n mewnforio ac allforio nwyddau oherwydd bydd newidiadau yn y gyfradd gyfnewid yn effeithio ar eu pris mewn gwledydd sy’n defnyddio arian cyfred gwahanol.