Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes

Cyflenwad: Astudiaeth Achos

 

Darllenwch yr erthygl isod cyn mynd ati i ateb y cwestiynau.

Sawl biliwn o ddoleri fyddai hi’n ei gostio i’r cwmnïau llongau dros yr wythnos y bu’r Ever Given yn rhwystro mynediad llongau masnach eraill i gamlas Suez?

Gan ddefnyddio’r map fel man cychwyn trafodwch gyda phartner beth oedd canlyniadau’r digwyddiad a pha ddewisiadau oedd ar gael i’r cwmnïau llongau yn ystod cyfnod y drafferth Ever Given.

Camlas-Suez

Gan ystyried amser a chost, pa ddewis yn eich barn chi fyddai wedi bod y penderfyniad gorau i’r cwmnïau llongau a’u cleientiaid:

Aros i’r llong gael ei rhyddhau neu teithio o amgylch Penrhyn Gobaith Da a De Affrica