Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes
About Lesson

Pris Ecwilibriwm

 

Mae theori economaidd yn nodi bod pris ecwilibriwm yn bodoli lle mae galw a chyflenwad yn gyfartal.

Pris Ecwilibriwm

Ceir pris ecwilibriwm lle mae’r galw am y cynnyrch neu’r gwasanaeth yn hafal neu’n gyfartal i’r cyflenwad ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaeth hwnnw.

Uwchlaw’r fan lle mae ecwilibriwm ar y diagram mae’r cyflenwad yn fwy na’r galw. Felly, fe fydd gorgyflenwad o’r cynnyrch neu’r gwasanaeth hwnnw. Bydd gorgyflenwad yn arwain at ostyngiad yn y pris er mwyn ceisio gwerthu’r cynnyrch sydd dros ben.

Islaw’r fan lle mae ecwilibriwm ar y diagram mae’r galw yn fwy na’r cyflenwad. O ganlyniad, fe fydd y pris yn cynyddu.

Mewn realiti dylanwadir ar brisiau gan nifer o ffactorau fel y byddwn yn edrych arnynt yn nes ymlaen.