Galw, Cyflenwad a Phris
Yn yr adran hon byddwn yn diffinio beth ydy ystyr y termau galw a cyflenwad ac yn ystyried eu perthynas nhw gyda phris y cynnyrch neu’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r cwsmer.
Galw
Galw yw faint o unrhyw beth y mae pobl yn barod i’w prynu neu’n gallu fforddio eu prynu ar unrhyw bris. Gan amlaf, ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth penodol fe fydd y galw yn lleihau wrth i’r pris godi. Y rheswm am hyn yw y bydd llai a llai o bobl yn gallu neu’n fodlon prynu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth wrth i’r pris godi.
Mae cromlin y galw yn dangos bod maint y galw yn lleihau pan fo’r pris yn codi ac yn cynyddu wrth i’r pris ostwng.
Mae nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio ar y galw ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth penodol.
Fforddiadwyedd
Mae galw yn ymwneud ag awydd pobl i brynu’r cynnyrch ond hefyd eu gallu i’w brynu, hynny yw, ydy’r cynnyrch yn fforddiadwy ai peidio? Er enghraifft, efallai bod prynwr eisiau prynu car Ferrari ond os nad yw hynny’n fforddiadwy yna dydy’r person hwnnw ddim yn gallu prynu’r car. Yn yr achos hwn felly dydy’r galw ddim yn bodoli.
Mae’r cyflog y mae’r prynwr yn ei dderbyn neu’r arian sydd ar gael i’r prynwr yn effeithio ar y gallu i brynu. Os bydd person yn derbyn codiad cyflog yna fe fydd y galw am y nwyddau hynny’n cynyddu.
Cystadleuaeth
Bydd y galw yn cael ei effeithio gan y gystadleuaeth sydd ar gael gan fod y prynwyr yn gallu prynu’r cynnyrch gan gwmni arall. Er enghraifft, os oes dwy siop sy’n gwerthu coffi mewn tref fechan a bod un o’r ddwy siop yn codi pris eu coffi nhw yna mae’n debygol y bydd eu cwsmeriaid yn symud i’r siop arall i brynu eu coffi os bydd y coffi o’r un safon.
Mae busnesau’n ceisio gwahaniaethu eu hunain oddi wrth eu cystadleuwyr trwy gyfrwng brandio. Y nod a’r gobaith yw y bydd cwsmeriaid yn deyrngar i’r brand hwnnw hyd yn oed os bydd y pris yn uwch na’u cystadleuwyr.
Effaith Cyfategolion
Cyfategolion ydy’r nwyddau hynny sy’n rhaid eu defnyddio gyda’i gilydd. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n prynu argraffydd bydd angen i chi hefyd brynu’r inc sy’n angenrheidiol ar gyfer yr argraffydd. Mae’r un peth yn wir pan fyddwch chi’n prynu consol gemau – bydd rhaid i chi hefyd brynu’r gemau sy’n cyd-fynd gyda’r consol. Mae’r galw am y nwyddau hyn yn cael ei effeithio gan y pris ac felly’r galw am y cyfategolion hefyd. Er enghraifft, os yw pris ceir trydan yn gostwng yna fe fydd cynnydd yn y galw amdanynt. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y galw am y nwyddau gyfategol, e.e. offer gwefru ceir.
Mae’r galw yn cael ei effeithio gan yr amnewidynnau neu’r dewisiadau eraill sydd ar gael. Os na fydd y cwsmer yn defnyddio’r gwasanaeth penodol sy’n cael ei gynnig yna mae amnewidynnau neu ddewisiadau eraill ar gael. Er enghraifft, petai chi am deithio o Gaerdydd i Gaergybi, byddai’n bosib i chi deithio mewn car neu fws, neu fe fyddai’n bosib i chi deithio ar y trên neu hyd yn oed hedfan (mewn awyren breifat efallai!). Hynny yw, mae sawl amnewidyn neu mae sawl dewis arall ar gael ar gyfer teithio o Gaerdydd i Gaergybi. Po fwyaf y dewis sydd gan y cwsmer yna y mwyaf yw’r effaith ar y galw.
Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP)
Pan fo Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn cynyddu y mae fel arfer yn golygu bod pobl yn gwario mwy gan fod yr economi yn fwy llewyrchus. Fe fydd hyn yn ei dro yn cynyddu’r galw am nwyddau a gwasanaethau. Bydd y gwrthwyneb fel arfer yn wir pan fo’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn lleihau.
Anghenion defnyddwyr a’r hyn y mae defnyddwyr yn eu chwennych
Mae gan ddefnyddwyr anghenion yn ogystal â dymuniad neu awydd am fod yn berchen ar ryw nwydd arbennig neu’i gilydd. Mae rhai gwasanaethau a nwyddau’n rhai cwbl angenrheidiol ar gyfer byw fel dŵr a bwyd. Os ydych chi’n chwennych rhywbeth yna mae gennych y dymuniad neu’r awydd i brynu a bod yn berchen ar y nwyddau hynny. Mae’r galw am nwyddau angenrheidiol fel dŵr yn debygol o aros yn weddol sefydlog ond gall yr awydd a’r dymuniad i brynu rhywbeth arbennig newid gan ei fod yn ddibynnol ar chwant a chwaeth pobl.