Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes
About Lesson

Cyflenwad

 

Cyflenwad yw’r nifer neu’r cyfanswm o nwyddau y mae busnes yn gallu ei ddarparu i’r farchnad ar unrhyw bris. Yn gyffredinol, mae busnesau’n fwy parod i gyflenwi nwyddau neu gynnyrch pan fydd y pris yn uchel neu’n codi ac yn llai parod i gyflenwi pan fydd y pris yn gostwng.

Cyflenwad

Mae’r gromlin cyflenwad uchod yn dangos bod cyflenwad yn lleihau ac yn isel pan fydd y pris yn isel neu’n gostwng ac yn cynyddu wrth i’r pris godi.

Mae yna ffactorau eraill sy’n effeithio ar gyflenwad nwyddau yn ogystal â phris:

Argaeledd deunyddiau crai a chyflenwad llafur

Er mwyn gweithgynhyrchu nwyddau bydd angen nwyddau crai o’r ddaear neu’r môr. Mae prinder o’r nwyddau crai hyn yn ei gwneud hi’n anodd prynu’r nwyddau crai hyn ac o ganlyniad mae’r pris yn codi. Mae gan fusnesau ddewis i newid eu cyflenwyr o’r nwyddau crai hyn neu efallai bod dewis ganddyn nhw i ddefnyddio deunyddiau crai eraill. Dewis arall fyddai codi pris y nwyddau gorffenedig. Yn yr un modd mae prinder llafur gyda’r sgiliau angenrheidiol yn gallu ei gwneud hi’n anodd o ran sicrhau cyflenwad llafur addas. Yn y maes amaethyddol mae hyn yn gallu cynnwys prinder gweithlu addas ar gyfer casglu llysiau a ffrwythau yn ystod y cyfnod cynhaeafu.

Logisteg

Mae logisteg yn ymwneud â chludo nwyddau o un lle i le arall. Os oes oedi yn y gadwyn gyflenwi gall hyn effeithio ar y cyflenwad o’r nwyddau hynny. Yn 2021, cafwyd damwain ar gamlas Suez a arweiniodd at long enfawr yr Ever Given yn mynd i drafferthion yng nghanol y gamlas. Canlyniad hyn oedd cau Camlas Suez i longau am gyfnod eithaf hir o amser. O ganlyniad i hyn doedd hi ddim yn bosib i’r llongau mawr oedd yn cludo nwyddau rhwng y Dwyrain Pell ac Ewrop symud drwy’r gamlas. Fe arweiniodd hyn yn ei dro at atal cyflenwad rhai nwyddau dros gyfnod o chwe diwrnod a mwy.

Y gallu i gynhyrchu’n broffidiol

Mae’n hanfodol bwysig bod cyflenwyr yn gallu cynhyrchu’n broffidiol er mwyn parhau i fasnachu. Os nad yw cyflenwi nwydd penodol yn broffidiol yna mae’n debygol y bydd cyflenwyr yn terfynu’r busnes hwnnw neu’n newid i gyflenwi nwyddau eraill. Er enghraifft, os yw ffermwr yn gweld bod cynhyrchu cennin yn amhroffidiol fe fydd yn debygol o newid i gynhyrchu llysiau eraill. Bydd hyn yn ei dro yn effeithio ar y cyflenwad o gennin sydd ar gael.

Cystadleuaeth am ddeunyddiau crai

Lle mae deunyddiau crai’n brin fe fydd cystadleuaeth ar gyfer prynu’r deunyddiau crai hynny’n cynyddu. Gall hyn arwain at gostau cynyddol i gynhyrchu’r nwyddau hynny. Gyda’r pris cynhyrchu yn codi bydd pris gwerthu’r nwyddau’n codi. Mae hyn yn debygol o arwain at ostyngiad mewn gwerthiannau.

Cefnogaeth gan y llywodraeth

Mewn rhai achosion bydd y Llywodraeth yn cynnig cefnogaeth i helpu cyflenwyr i barhau i gyflenwi eu nwyddau.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Busnes Cymru