About Lesson
Gosod y Pris – Oligopoli
Mae nifer o fusnesau pwerus mewn oligopoli felly mae angen bod yn ofalus o ran polisïau prisio. Mae ‘brwydr o ran prisiau’ yn gallu dilyn o ganlyniad i hyn a gall y ‘brwydrau’ hyn fod yn hynod beryglus i fusnesau.
O ganlyniad i hyn mae busnesau sydd â strwythur oligopoli yn cadw llygad barcud ar brisiau eu cystadleuwyr. Maen nhw’n tueddu i ddilyn polisi prisio sy’n seiliedig ar gystadleuaeth, gan hyrwyddo gwerthu nwyddau mewn ffyrdd eraill fel hybu’r brand a hysbysebu’n rheolaidd.
Mae’n bosib i gwmnïau gyd-gynllwynio â’i gilydd mewn oligopoli ond mae cyd-gynllwynio’n weithred wrthgystadleuol ac yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.