Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes

Prisio mewn Marchnad Cystadleuaeth Fonopolistaidd

 

Mewn cystadleuaeth fonopolistaidd mae busnesau’n wneuthurwyr prisiau ac felly yn gallu dewis eu strategaeth brisio eu hunain.

Dyma rai o’r strategaethau y maen nhw’n gallu eu dewis:

Prisio cost plws

ychwanegu canran (%) at gost cynhyrchu’r nwydd neu ddarparu’r gwasanaeth.

Prisio cystadleuol

gosod yr un pris a’u cystadleuwyr.

Cynnig nwyddau ar golled (loss leaders) – gosod pris sy’n llai na’i gost gynhyrchu er mwyn denu pobl i’r man gwerthu gan obeithio y bydd cwsmeriaid yn prynu nwyddau eraill yr un pryd. Er enghraifft, fe allai cwmni sy’n gwerthu consol gemau cyfrifiadurol gynnig y consol ar bris sy’n is na’r gost o gynhyrchu’r consol er mwyn denu pobl i brynu meddalwedd drud sy’n cyd-fynd â’r consol hwnnw.