Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes
About Lesson

Cystadleuaeth Berffaith

 

Mewn cystadleuaeth berffaith mae nifer o gwmnïau bach mewn cystadleuaeth â’i gilydd. Does dim rhwystrau i fynediad sy’n golygu y gall unrhyw un ddechrau busnes a chael mynediad i’r farchnad. Mae’r cynnyrch yn union yr un peth i bawb a does fawr ddim brandio i’w weld. Mae’r busnesau yn gorfod derbyn pris y farchnad, hynny yw, maen nhw’n gymerwyr pris. Yn aml iawn fe welir y math hwn o gystadleuaeth mewn marchnadoedd lle mae ffermwyr yn gorfod derbyn pris y farchnad am eu cynnyrch.

Marchnad
Marchnad gwerthu anifeiliaid, Y Fenni