Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes
About Lesson

Cystadleuaeth Amherffaith – Monopoli

 

Mewn monopoli pur dim ond un cwmni fydd yn bodoli yn y farchnad. Prin iawn ydy’r enghreifftiau lle ceir marchnad o’r fath. Byddwch yn ofalus i beidio â chymysgu rhwng monopoli pur gyda monopoli cyfreithiol (sef bod yn berchen ar 25% o’r farchnad). Yng Nghymru gellir dweud bod Dŵr Cymru’n fonopoli gan nad oes dewis gan y rhan fwyaf o bobl Cymru i dderbyn eu cyflenwad dŵr gan gwmnïau eraill.

Mae monopoli yn gwmni sy’n gallu penderfynu a rheoli’r pris. Mewn theori gallant bennu pa bynnag pris y maen nhw’n ei ddewis ac fe fydd yn rhaid i’r cwsmer ei dalu. Mewn realiti, mae gweithgareddau’r cwmni yn cael eu goruchwylio gan y Rheoleiddiwr, sef Ofwat yn yr achos hwn. Bydd Ofwat yn sicrhau bod y prisiau y mae cwsmeriaid yn ei dalu’n deg.

Bydd angen i chi ddewis y botwm dewis iaith ‘Cymraeg’ ar frig gwefan Ofwat i gael mynediad i fersiwn Gymraeg y wefan.