About Lesson
Cystadleuaeth Amherffaith – Cystadleuaeth Fonopolistaidd
Mewn cystadleuaeth fonopolistaidd ceir eto nifer fawr o gwmnïau sy’n gwerthu nwyddau tebyg ond erbyn hyn mae brandio’n dod yn fwy pwysig. Er hyn, bydd yr hunaniaeth brand yn weddol wan a cheir cystadleuaeth fywiog gan nwyddau neu gynhyrchion eraill. Wedi dweud hynny, dydy busnesau sydd mewn cystadleuaeth fonopolistaidd ddim yn gymerwyr pris. Mae ganddyn nhw’r cyfle i frandio neu i wahaniaethu eu cynnyrch er mwyn ychwanegu at apêl eu nwyddau neu eu cynhyrchion i’r cwsmer.