About Lesson
Strwythurau marchnad gwahanol
Yn ôl economegwyr y mae yna 4 strwythur gwahanol ar gyfer marchnadoedd sef cystadleuaeth berffaith, a thri gwahanol fath o gystadleuaeth amherffaith sy’n cynnwys monopoli, oligopoli a chystadleuaeth fonopolistaidd. Gwahaniaethir rhyngddynt ar sail y nifer o gwmnïau sydd yn y farchnad, y rhwystrau i fynediad ar gyfer busnesau newydd a natur y cynnyrch.