About Lesson
Cystadleuaeth Amherffaith – Oligopoli
Mewn oligopoli bydd nifer o gwmnïau’n cystadlu â’i gilydd ond bydd nifer bychan o gwmnïau mawr yn dominyddu’r farchnad. Mae brandio a chreu delwedd o safon yn bwysig mewn oligopoli. Bydd ymdrech hefyd i wahaniaethu eu nwyddau nhw o nwyddau eu cystadleuwyr. Bydd rhai rhwystrau o ran mynediad i’r farchnad, er enghraifft, costau cychwynnol uchel neu’r defnydd o nod masnach neu batent arbennig i atal busnesau eraill rhag copïo eu cynnyrch. Enghraifft dda o oligopoli yn y Deyrnas Unedig (DU) yw’r archfarchnadoedd lle mae tua 5 – 6 cwmni yn rheoli canran sylweddol o’r farchnad. Enghraifft arall o oligopoli yw gwasanaethau ffrydio ffilmiau lle mae busnesau mawr fel Netflix, Amazon a Hulu yn dominyddu’r farchnad ar draws y byd.