Elastigedd Pris y Galw
Mae elastigedd pris y galw yn golygu pa mor sensitif y mae’r galw am y cynnyrch o ganlyniad i newid mewn pris.
Cyfrifir elastigedd pris y galw yn ôl y fformiwla a ganlyn:
% newid yn y galw
% newid yn y pris
Os yw’r ateb yn fwy nag 1 mae’r galw am y nwydd yn bris elastig. Hynny yw, mae’r newid canrannol ym maint y galw yn fwy na’r newid canrannol yn y pris. Pan fydd busnesau’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau sy’n bris elastig bydd angen iddynt fod yn ofalus iawn ynglŷn â newidiadau yn y pris gan fod perygl y bydd yn arwain at newidiadau sylweddol ym maint y galw.
Os yw’r ateb yn llai nag 1 mae’r galw am y nwydd yn bris anelastig. Yn yr achos hwn fe fydd newidiadau canrannol ym maint y galw yn llai na’r newid canrannol yn y pris. Enghraifft o nwydd anelastig yw tanwydd, e.e. nwy. Pan fydd pris nwy yn codi fe fydd pobl yn gallu dewis defnyddio ychydig llai ond yn gyffredinol (yn y tymor byr) fe fydd yn rhaid iddynt dalu’r pris newydd. Felly, hyd yn oed pan fo pris nwyddau fel hyn yn codi’n sylweddol, does dim newid tebyg ym maint y galw.
Mae hyn yn golygu bod codi pris nwyddau anelastig yn gallu arwain at incwm ac elw uwch.
Mae elastigedd wedi’i effeithio gan:
Argaeledd Amnewidynnau
Os oes nifer o amnewidynnau mae’n debygol y bydd y pris yn elastig. O ganlyniad, fe fydd gan gwsmeriaid llawer iawn mwy o ddewis. Felly, os yw busnes yn codi pris y cynnyrch, yna mae’r cwsmer yn gallu prynu cynnyrch arall. Er enghraifft, os yw pris tocyn trên yn codi, mae’n bosib y gall cwsmeriaid ddefnyddio dull arall o deithio fel bws neu gar.
Cyfnod Amser
Dros gyfnod o amser, mae pob nwydd neu gynnyrch yn bris elastig. Er enghraifft, os yw pris nwy yn uwch o’i gymharu â mathau eraill o danwydd, fe fydd pobl dros amser yn newid i ddefnyddio mathau eraill o danwydd fel gosod paneli solar neu bwmp gwres ffynhonnell aer. O ganlyniad i hyn fe fydd y galw am nwy yn gostwng.
Brandio
Mae nwyddau sydd wedi eu brandio’n gryf yn ennyn ffyddlondeb cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu y bydd bobl yn parhau i brynu eu nwyddau pan fydd y pris yn codi neu hyd yn oed pan fydd pris eu cystadleuwyr yn is. Ystyriwch y farchnad diodydd meddal fel cola lle mae gennych frandiau enwog fel Pepsi a Coca Cola. Er bod y diodydd yn debyg iawn o ran blas, mae yna nifer sylweddol o gwsmeriaid na fyddent byth yn newid o un brand i’r llall.