Modiwl 4: Archwilio Marchnadoedd Busnes
About Lesson

Penderfyniadau ynghylch prisio ac allbwn

 

Mae pris wedi’i effeithio gan y galw a’r cyflenwad (neu’r allbwn). Mae’r penderfyniad ar osod y pris hefyd wedi’i ddylanwadu gan y math o farchnad y mae’r busnes yn rhan ohono.

Effaith

Effaith y penderfyniad prisio ac allbwn o fewn marchnadoedd gwahanol

 

Fel rydym wedi gweld eisoes, mae cyflenwyr sy’n gweithredu mewn gwahanol farchnadoedd naill ai’n dderbynwyr prisiau neu’n wneuthurwyr prisiau.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Derbyniwr Prisiau a Gwneuthurwr Prisiau?

Mae derbynwyr prisiau i’w gweld mewn marchnadoedd cwbl gystadleuol. Mae gwneuthurwyr prisiau’n gallu dylanwadu ar bris y farchnad a mwynhau grym i benderfynu’r pris.

Gwneuthurwr prisiau yw’r gwrthwyneb i dderbyniwr prisiau.

Mewn cystadleuaeth berffaith mae busnesau’n dderbynwyr prisiau ac felly nid oes ganddynt unrhyw ddylanwad dros y pris sy’n cael ei osod. Mae’n rhaid iddynt dderbyn pris y farchnad. Fodd bynnag, mewn marchnadoedd lle mae cystadleuaeth yn amherffaith mae sawl strategaeth y gall busnesau eu defnyddio.