Astudiaeth Achos – Brandio
Dilynwch y ddolen at wefan byrgyrs Ansh:
Mae byrgyrs Ansh wedi’u brandio ar ôl arwyr Cymru. Pam rydych chi’n credu eu bod yn gwneud hyn?
Ydych chi’n meddwl bod y brandio’n effeithiol?
Oeddech chi’n adnabod y cymeriadau maen nhw’n eu defnyddio? Os na, gallwch glicio arnynt er mwyn dysgu mwy amdanynt.
Brandio
Mae brandio’n holl bwysig er mwyn i gwsmeriaid adnabod eich nwyddau.
Mae logo adnabyddus yn golygu bod eich cwsmeriaid yn adnabod eich nwyddau’n syth – ambell waith heb hyd yn oed heb orfod gweld y logo cyfan
Edrychwch ar y logo isod:
Pa fath o gwmni ydych chi’n meddwl yw GwalltCo?
Mae nodweddion arbennig i’r logo – ydych chi’n gallu eu hadnabod?
Nid dim ond logo yw brand, gall hefyd gynnwys slogan, lliwiau, ieithwedd, ffont ac ati, sy’n creu hunaniaeth y nwydd, gwasanaeth neu fusnes. Gall hyd yn oed gynnwys sain:
Mae’n bwysig bod yn gyson gyda’ch brandio fel bod pobl yn adnabod eich nwyddau neu wasanaeth.
Gwyliwch y fideo i glywed cwmni Wonky Fruit yn sôn am eu penderfyniadau brandio: