Dadansoddiad SWOT
Mae dadansoddiad SWOT yn canolbwyntio ar amgylchedd mewnol ac allanol cwmni. Mae’n lle da i ddechrau edrych ar sefyllfa bresennol cwmni o ran marchnata, ond hefyd er mwyn dechrau ystyried y farchnad allanol. Gallwch wedyn wneud dadansoddiad PESTLE er mwyn dadansoddi’r farchnad allanol yn fwy manwl.
Gellir defnyddio dadansoddiad SWOT mewn ffordd gyffredinol ar gyfer gweithgareddau busnes ond wrth ei ddefnyddio i gynllunio ymgyrch farchnata dylid canolbwyntio ar yr agweddau sy’n ymwneud â marchnata. Acronym Saesneg yw SWOT sy’n cyfateb i’r canlynol yn y Gymraeg.
S(trengths) – Cryfderau
W(eaknesses) – Gwendidau
O(pportunities) – Cyfleoedd
T(hreats) – Bygythiadau
Cryfderau
Cryfderau busnes yw’r pethau y mae’n eu gwneud yn dda neu bethau sydd eisoes wedi bod yn llwyddiannus i’r cwmni, y pethau sy’n rhoi mantais gystadleuol i’r busnes. Efallai bod gan fusnes sianeli cyfryngau cymdeithasol cryf neu frand clir ac adnabyddus.
Gwendidau
Gwendidau yw’r pethau nad yw busnes yn eu gwneud cystal neu bethau sy’n wan y mae angen eu gwella.
Oes diffyg adnoddau neu arbenigedd yn y busnes? Efallai bod gan y busnes frand cryf ond nad oes arbenigedd marchnata cyfyngau cymdeithasol yn y busnes. Neu efallai bod gan nwyddau’r busnes botensial ond bod y brandio’n wan.
Cyfleoedd
Cyfleoedd yw’r pethau allanol y gall y busnes fanteisio arnynt, er enghraifft, efallai bod cyfle i apelio at farchnad newydd neu greu nwydd newydd. Oes bwlch yn y farchnad? Mae bwlch yn y farchnad yn ymwneud ag angen sydd heb gael ei fodloni gan y nwyddau sydd ar gael yn barod.
Bygythiadau
Bygythiadau – dyma’r pethau sy’n gallu cael effaith negyddol ar eich busnes. Yn nhermau marchnata gallai’r rhain fod yn bethau y mae eich cystadleuwyr yn eu gwneud ond gall hefyd ddod o newidiadau mewn chwaeth cwsmeriaid neu bolisi llywodraethol.
Bydd edrych ar eich cyfleoedd a bygythiadau yn rhoi rhywfaint o syniad i fusnes am ei amgylchedd allanol ac er mwyn deall yr amgylchedd allanol yn well mae modd edrych ar ddadansoddiad PESTLE.